Joe Allen yn ymuno â Stoke am £13m

Getty Images Image copyright Getty Images

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen, wedi ymuno â Stoke City am £13m.

Mae Allen wedi arwyddo cytundeb pum mlynedd gyda'r clwb, ar ôl gadael Lerpwl.

Dim ond blwyddyn oedd ar ôl ar gytundeb y Cymro yn Anfield.

Dywedodd: "Mae wedi bod yn 48 awr prysur iawn i mi ond dwi'n falch iawn i gael arwyddo'r cytundeb o'r diwedd.

"Roeddwn i'n gyffrous iawn ar ôl clywed am ddiddordeb y clwb ac nid oedd yn benderfyniad anodd i'w wneud."

Roedd Allen hefyd wedi denu diddordeb gan Abertawe, y clwb wnaeth o adael i ymuno a Lerpwl yn 2012.

Bydd Allen nawr yn chwarae dan cyn reolwr Cymru, Mark Hughes yn Stoke.

Dywedodd prif weithredwr y Potters, Tony Scholes:"Mae Joe yn chwaraewr y mae Mark wedi ei edmygu ers tro.

"Rydyn ni wedi gorfod gweithio'n gyflym i gwblhau'r cytundeb ond rydyn ni'n falch iawn ein bod wedi gwneud hynny."

Er iddo ddechrau ond wyth gêm yn y gynghrair y tymor diwethaf, cafodd Allen ei gynnwys yn nhîm y gystadleuaeth wedi ei berfformiadau yn Euro 2016.