Naw o Gymry yn y tîm athletau Paralympaidd ar gyfer Rio
- Cyhoeddwyd

Mae 41 wedi eu dewis i gynrychioli Prydain yn y tim athletau ar gyfer gemau Paralympaidd yn Rio ym mis Medi.
Ymhlith y rhai o Gymru mae Kyron Duke o Gwmbrân, Sabrina Fortune o'r Wyddgrug a Jordan Howe o Gaerdydd sydd wedi eu dewis ar gyfer campau athletaidd.
Mae Rhys Jones, gafodd fedal efydd yn y Gemau Gymanwlad yng Nglasgow a Steven Morris, rhedwr 1500m hefyd wedi eu cynnwys fel rhan o'r garfan.
Yn gynharach yn y flwyddyn cafodd enwau eraill o Gymru sef Aled Sion Davies a Hollie Arnold sydd yn cystadlu gyda'r gwaywffon eu cyhoeddi. Mae'r gobeithion yn uchel ar gyfer Aled Sion Davies a gafodd fedalau yn 2012.
Ond fydd o ddim yn cael cyfle i amddiffyn ei deitl fel pencampwr cystadleuaeth ddisgen yng nghategori F42 yng Ngemau Paralympaidd Rio 2016, wedi i'r gystadleuaeth gael ei thynnu o'r gemau.
Mae'r cyhoeddiad ddydd Mawrth yn golygu mai naw o Gymru sydd yn rhan o garfan athletau paralympaidd Prydain y tro yma.
Roedd 38 o Gymry yn rhan o'r tîm Paralympaidd cyfan yn y gemau diwethaf yn Llundain yn 2012, a'r adeg hynny fe enillodd tîm Prydain 120 o fedalau gan orffen yn drydydd tu ôl i China a Rwsia.