Saunders: 'Anodd' i Gymru gadw Chris Coleman
- Cyhoeddwyd
Mae cyn ymosodwr Cymru, Dean Saunders yn dweud y bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ei chael hi'n anodd cadw'r rheolwr Chris Coleman, ar ôl llwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth Euro 2016.
Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru fod mewn pencampwriaeth fawr ers 1958, ac fe gyrhaeddodd y tîm y rownd gyn derfynol cyn golli o 2-0 yn erbyn Portiwgal.
Yn siarad gyda Reuters, dywedodd Saunders: "Dwi ddim yn gwybod os bydd y Gymdeithas Bêl-droed yn gallu dal eu gafael yn Chris.
"Dwi'n meddwl y bydd rhywun yn dod ac yn neidio ar y cyfle i'w wneud yn rheolwr.
"Ar hyn o bryd mae ei broffil mor uchel felly fydden ni ddim yn synnu os yw wedi cael cynigion gan glybiau yn yr Uwch Gynghrair neu i fynd dramor. Dwi'n dychmygu mai dyna sy'n digwydd ar y funud."
Disgwyliadau'n uchel
Cyn rheoli Cymru, roedd Coleman yn rheolwr ar glybiau fel Fulham, Real Sociedad a Larissa.
Yn ôl Saunders mae'n bosib bod hyfforddwr Cymru yn colli'r gwaith dyddiol gyda chlwb cynghrair.
"Dydych chi ddim yn cael llawer o amser gyda'r chwaraewyr, dydych chi ddim ar y cae hyfforddi bob dydd a dyna'r peth gorau am fod yn hyfforddwr," meddai.
"Dim strach, dim ond gwylio'r bechgyn yn chwarae pêl-droed ac mae'n siŵr bod Chris yn colli'r elfen hynny."
Dywedodd hefyd bod Coleman wedi defnyddio'r tactegau cywir yn ystod Euro 2016 ac y bydd disgwyliadau'r cefnogwyr yn uchel ar gyfer y gemau nesaf yn ymgyrch Cwpan y Byd 2018.
"Mae 'na nifer o chwaraewyr ifanc yn y tîm, maen nhw wedi cael sawl cap ac fe ddylen nhw nawr fod yn edrych ymlaen at yr ymgyrch nesaf.
"Mae'n rhaid i'r chwaraewyr yn y tîm dan 21, dan 19 hefyd feddwl, 'dwi eisiau cael fy newis, dwi eisiau bod yn rhan o hynny'."