Anafiadau pen y rheswm tebygol am farwolaeth merch 22 oed

David N Image copyright Stacey Oliver
Image caption Mae David Nicholas Davies wedi ei gadw yn y ddalfa

Mae patholegydd wedi dweud mai anafiadau pen difrifol mae'n debyg wnaeth lladd menyw 22 oed o Benygroes.

Cafodd Emma Lousie Baum ei chanfod yn farw yn ei chartref ar Ffordd Llwyndu wythnos diwethaf.

Mae'r patholegydd, Dr Alison Armour wedi dweud mai anafiadau sylweddol i'w phen oedd y rheswm tebygol am ei marwolaeth.

Yn ystod y cwest dywedodd y crwner Dewi Pritchard-Jones ei fod yn disgwyl adroddiad manwl yn dilyn archwiliad post-mortem ond ei fod wedi cael gwybod bod llawer o waed.

Mae David Nicholas Davies, 25 oed wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.