Sied sy'n troi 360° ar restr fer gwobr Sied y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Bryan Lewis Jones's timber frame "eco" building rotates 360 degrees
Mae sied "unigryw" yn Sir Ddinbych wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer gwobr Sied y Flwyddyn.
Mae adeilad pren, ecogyfeillgar Bryan Lewis Jones yn gallu troi 360° er mwyn wynebu'r haul drwy gydol y dydd yn ei leoliad yn Llanelwy.
Hefyd ar y rhestr fer derfynol yn y categori Sied Unigryw mae sied sydd ar olwynion.
Ffynhonnell y llun, Mischief PR
Mae'r sied yn gallu troi er mwyn dilyn yr haul
Ffynhonnell y llun, Mischief PR
Tu mewn mae lle tân a soffa i ymlacio
Yn y categori hanesyddol mae sied yr oedd Dylan Thomas yn ei defnyddio i ysgrifennu ynddi wedi ei henwebu ar gyfer gwobr.
Mae'r sied honno yn sefyll uwchben aber yr afon yn Nhalacharn, ac mae wedi ei dodrefnu i fod fel y byddai pan oedd Thomas yn ei defnyddio.
Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar raglen Amazing Spaces Shed of the Year ar Channel 4.