'Ystyried' cynnal Eisteddfod 2021 yng Nghaernarfon

elfed
Image caption Mae'n syniad sy'n "werth ei ystyried", meddai Elfed Roberts

Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi agor y drws i drafod y cynnig o gynnal y Brifwyl yng nghanol Caernarfon yn 2021.

Dywedodd Elfed Roberts bod y syniad o'r dref yn denu'r brifwyl mewn pum mlynedd heb y maes traddodiadol yn "werth ei ystyried".

Mae llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd wedi dweud y bydden nhw'n "croesawu trafodaeth" gyda grwpiau perthnasol am leoliadau posib i'r 'Steddfod.

Daw sylwadau'r prif weithredwr wedi i drigolion lleol yng Nghaernarfon drafod y mater wedi i'r trefnwyr benderfynu cynnal yr Eisteddfod heb faes traddodiadol ym Mae Caerdydd yn 2018.

"Mae o'n syniad sy'n werth ei ystyried yn dydi, ond mae angen i ni gael trafodaethau efo'r awdurdodau yng Nghaernarfon i ddechrau," meddai Mr Roberts.

"Swni'n dweud bod y bêl, ar hyn o bryd, yng nghwrt Cyngor Gwynedd oherwydd mae Cyngor Gwynedd, fel dywedodd yr arweinydd, yn cefnogi'r 'Steddfod yn ariannol bob blwyddyn.

"Os ydi (Cyngor) Gwynedd eisiau gwahodd y 'Steddfod, un ai i Gaernarfon, neu i unrhyw ran o Wynedd, yr hyn sydd angen iddyn nhw wneud yw cysylltu gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a dweud bod ganddyn nhw ddiddordeb cael y 'Steddfod yn y flwyddyn 2021. Felly dewch i ni ddechrau trafod."

Image copyright Eisteddfod
Image caption Bydd y pafiliwn newydd yn ymddangos ar faes y Brifwyl am y tro cynta' yn Y Fenni yn 2016

Mae'n "syniad rhagorol", meddai'r ymgyrchydd iaith, Simon Brooks, gan ychwanegu y byddai cynnal y 'Steddfod heb faes traddodiadol yng Nghaernarfon yn "gyfraniad enfawr" i'r dref.

Dywedodd y gall rhai o'r digwyddiadau a'r cystadlu gael eu cynnal yn y castell yn y dref ac yng Nghanolfan Pontio ym Mangor.

"Mae angen edrych yn gadarnhaol ar hyn ac mae'r ffaith eu bod nhw'n fodlon edrych ar yr opsiynau i'w groesawu," meddai Mr Brooks.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Fel cyngor, rydym yn gefnogol iawn i waith yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn cyfrannu yn flynyddol fel un o'r 22 cyngor trwy drefniant gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

"O ran lleoliadau ar gyfer yr Ŵyl i'r dyfodol, byddem yn croesawu trafodaeth yn lleol gydag amrediad o grwpiau perthnasol."