Eisteddfod Genedlaethol 2016: Mesur gwerth y gwirfoddolwyr
- Cyhoeddwyd

Wrth i filoedd o bobl heidio i'r Fenni ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yr wythnos hon, mae'r trefnwyr wedi dweud y byddai cynnal y fath ŵyl yn amhosib heb gefnogaeth a gwaith byddin o wirfoddolwyr.
Gyda channoedd o shifftiau i'w llenwi ym mhob cwr o'r Maes, mae'r gwaith o dynnu amserlen ynghyd yn her flynyddol i Dylan Jones, sy'n gyfrifol am gyd-lynu'r holl brosiect.
Dywedodd Mr Jones wrth Cymru Fyw: "Heb gefnogaeth gwirfoddolwyr, byddai'n amhosibl cynnal yr Eisteddfod, ac mae ein dyled yn fawr i bob un ohonyn nhw sy'n gwneud gwahaniaeth i'n gwaith ni. Gyda thîm canolog mor fach, mae cefnogaeth a chymorth gwirfoddolwyr yn angenrheidiol."
Cyfleoedd
Un arall sy'n gweithio'n agos gyda gwirfoddolwyr yw Alwyn Roberts, Dirprwy Drefnydd yr Eisteddfod, ac mae Mr Jones yn pwysleisio sut mae'r Eisteddfod wedi mynd ati i ddatblygu'r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer pobl sy'n cynnig eu hamser i'r sefydliad yn ystod yr wythnos:
"Mae'r ymateb eleni wedi bod yn ardderchog; mae'n anodd cofio cynifer o bobl leol yn gwirfoddoli i helpu. Mae'n dda bod pobl yn gweld gwirfoddoli gyda'r Eisteddfod fel cyfle i gael profiad, yn rhywbeth sy'n mynd i edrych yn dda ar eu CV, ac yn ffordd o gynnig rhywbeth yn ôl i Gymru.
"Mae cyfleoedd ar gael ar gyfer siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a'r di-Gymraeg gan ein bod ni'n gallu paru Cymry Cymraeg gyda rhai di-Gymraeg er mwyn rhoi cyfle i bawb sy'n awyddus i gefnogi'r Eisteddfod.
"Eleni, mae gennym gyfleoedd ar gyfer stiwardiaid cyffredinol ynghyd â chyfleoedd ym maes gofal cwsmer, cyfathrebu ac ar gyfer ffotograffwyr. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi gwirfoddoli, a dim ond i gyhoeddi hefyd y bydd ein cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer 2017 yn mynd yn fyw ar-lein yn y flwyddyn newydd."
Mae ambell un yn gwirfoddoli ers blynyddoedd lawer, ac eraill yn cymryd y cyfle i fod yn rhan o'r tîm am eleni'n unig wrth i'r Eisteddfod ymweld â'r ardal. Beth bynnag eu rheswm dros wirfoddoli, mae'r gwaith a wneir yn amhrisiadwy i'r ŵyl meddai'r trefnwyr.