Gemau Olympaidd Rio: Y Cymry sy'n cystadlu ddydd Llun
- Cyhoeddwyd


Nofio
Enw: Georgia Davies
Camp: 100m dull cefn - Rownd derfynol
Dyddiad geni: 11 Hydref, 1990
Man geni: Llundain (wedi'i magu yn Abertawe)
Anrhydeddau: Aur yn y 50m dull cefn yng Ngemau'r Gymanwlad 2014, pencampwr Ewrop yn ras gyfnewid gymysg 4x100 ym Mhencampwriaethau Ewrop
Gyda'i ras orau, y 50m dull cefn, ddim yn rhan o'r gemau, bydd Davies yn gorfod rasio yn y 100m. Bydd hi'n gobeithio gwneud y rownd derfynol yn y ras honno ac yn anelu am fedal yn y ras gyfnewid.
Enw: Chloe Tutton
Camp: 100m dull broga - Rownd derfynol
Dyddiad geni: 17 Gorffennaf, 1996
Man geni: Pontypridd
Anrhydeddau: Pencampwr ras gyfnewid gymysg 4x100m ym Mhencampwriaethau Ewrop 2016
Ar ôl gwneud ei hymddangosiad rhyngwladol cyntaf yng Ngemau'r Gymanwlad 2014, mae Tutton wedi cael blwyddyn lwyddiannus gan ennill tlws 200m dull broga Prydain. Bydd hi'n gobeithio bod ymysg y medalau yn y gystadleuaeth yn Rio.
Rygbi 7-pob-ochr
Enw: Jasmine Joyce
Gemau: Gêm gynderfynol a'r ffeinal
Dyddiad geni: 9 Hydref, 1995
Man geni: Tyddewi
Joyce yw'r unig chwaraewr o du allan i Loegr yng ngharfan 7-pob-ochr merched Prydain. Cafodd hi ei galw i garfan Cymru ar ôl creu argraff i Bontyclun a'r Scarlets, ac mae hi wedi cymryd seibiant o'i hastudiaethau prifysgol i ganolbwyntio ar ei gyrfa rygbi.