Gemau Olympaidd Rio: Y Cymry sy'n cystadlu ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd
Bundy-Davies, Thomas, Jones, DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
line break

Bocsio

Enw: Joe Cordina

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Camp: Bocsio pwysau ysgafn (60 cilogram) - Rownd yr 16 olaf

Dyddiad geni: 1 Rhagfyr, 1991

Man geni: Caerdydd

Anrhydeddau: Pencampwr amatur Ewrop 2015, Pencampwr Gemau'r Gymanwlad 2014

Mae'r bocsiwr 24 oed yn rhannu cyfleusterau ymarfer yng Nghasnewydd gyda nifer o enwau amlwg - Lee Selby, Fred Evans, Sean McGoldrick ac Andrew Selby.

Rygbi 7-pob-ochr

Enw: James Davies

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Gemau: Prydain v Kenya; Prydain v Japan

Safle: Blaenasgellwr

Dyddiad geni: 25 Hydref, 1990

Man geni: Caerfyrddin

Anrhydeddau: Enillydd plât pencampwriaeth 7-pob-ochr Dubai 2012

Y blaenasgellwr 25 oed ydi brawd canolwr Cymru a'r Llewod, Jonathan Davies. Ei lysenw ydi 'Cubby' am mai llysenw ei frawd ydi Jon 'Fox', a hynny am fod eu rhieni yn arfer rhedeg tafarn y Fox & Hounds ym mhentref Bancyfelin.

Fe wnaeth cyn gapten tîm 7-pob-ochr Cymru greu argraff yn y Pro12 y tymor diwethaf ac roedd yn anlwcus i beidio bod yn rhan o'r garfan ar gyfer y daith i Seland Newydd ddechrau'r haf.

Enw: Sam Cross

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Gemau: Prydain v Kenya; Prydain v Japan

Safle: Wythwr

Dyddiad geni: 26 Awst, 1992

Man geni: Y Fenni

Roedd yr wythwr 23 oed yn arfer chwarae pêl-droed i Went a rygbi'r gynghrair i Gymru. Mae ar gytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru i chwarae i'r tîm 7-pob-ochr, ac mae wedi ennill 100 o gapiau.

Bu'n chwarae i Brifysgol Met Caerdydd wrth astudio ysgoloriaeth mewn gwyddor chwaraeon ac ymarfer.

Rhwyfo

Enw: Victoria Thornley

Camp: Parau rhwyfo - Rownd gynderfynol

Dyddiad geni: 30 Tachwedd, 1987

Man geni: Llanelwy

Anrhydeddau: Efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd 2011 a Phencwmpwriaethau Ewrop 2015

Y cyn farchog a model oedd y person cyntaf i ennill medal ar ôl graddio o gynllun rhwyfo 'Cewri Chwaraeon' pan oedd hi'n fuddugol ym Mhencampwriaethau dan-23 y Byd yn 2009. Bydd hi'n rasio gyda Katherine Grainger, sy'n amddiffyn y fedal aur wnaeth hi ennill yn Llundain.

Enw: Chris Bartley

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Camp: Pedwarawd pwysau ysgafn - Rownd gynderfynol

Dyddiad geni: 2 Chwefror, 1984

Man geni: Wrecsam

Anrhydeddau: Pencwmpwr y Byd 2010, medal arian yng Ngemau Olympaidd 2012

Mae'r gŵr 32 oed wedi bod yn rhan o bedwarawd Prydain ers 2009 ac roedd yn rhan o'r tîm wnaeth fethu allan ar fedal aur o lai nag eiliad yng ngemau Llundain.

Bartley, wnaeth astudio bioleg ym Mhrifysgol Nottingham, yw un o rwyfwyr mwyaf profiadol carfan Prydain.

Nofio

Enw: Ieuan Lloyd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Camp: Ras gyfnewid 4x200m dull rhydd - Rownd gyntaf a'r rownd derfynol

Dyddiad geni: 9 Gorffennaf, 1993

Man geni: Penarth

Fe wnaeth Lloyd ei ymddangosiad Olympaidd cyntaf yn Llundain ond ers hynny mae wedi cael amser gwael ohoni. Mae'n cael blwyddyn dda eleni, fodd bynnag a bydd yn rhan o ras gyfnewid 4x200m dull rhydd hefyd.