Gemau Olympaidd Rio: Y Cymry sy'n cystadlu ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd


Nofio
Enw: Jazz Carlin
Camp: 800m dull rhydd - Rownd derfynol
Dyddiad geni: 17 Medi, 1990
Man geni: Swindon (i rieni Cymraeg)
Anrhydeddau: Pencampwr 800m dull rhydd yng Ngemau'r Gymanwlad a Phencampwriaethau Ewrop 2014
Carlin yw'r Gymraes gyflymaf erioed yn y 200m, 400m ac 800m dull rhydd ac fe wnaeth hi ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn 15 oed. Yn 2014 daeth hi'r nofwraig gyntaf i ennill medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad ers Pat Beavan yn 1974. Mae hi'n gefnogwr Manchester United ac yn hyfforddwr personol cymwys. Dyma fydd ei Gemau Olympaidd cyntaf a bydd hi'n gobeithio bod ymysg y medalau yn ei ras orau, yr 800m.
Enw: Chloe Tutton
Camp: Ras gyfnewid gymysg 4x100m - Rownd gyntaf
Dyddiad geni: 17 Gorffennaf, 1996
Man geni: Pontypridd
Anrhydeddau: Pencampwr ras gyfnewid gymysg 4x100m ym Mhencampwriaethau Ewrop 2016
Ar ôl gwneud ei hymddangosiad rhyngwladol cyntaf yng Ngemau'r Gymanwlad 2014, mae Tutton wedi cael blwyddyn lwyddiannus gan ennill tlws 200m dull broga Prydain. Bydd hi'n gobeithio bod ymysg y medalau yn y gystadleuaeth yn Rio.
Seiclo
Enw: Owain Doull
Camp: Ras ymlid tîm - Rownd gynderfynol a'r rownd derfynol
Dyddiad geni: 2 Mai, 1993
Man geni: Caerdydd
Anrhydeddau: Pwncampwr ras ymlid tîm Ewrop 2013, 2014 a 2015
Mae'r gŵr 23 oed yn rhan o dîm sy'n amddiffyn eu medal aur o gemau Llundain, a dynion Prydain yw'r ffefrynnau i wneud hynny. Fe wnaeth y Cymro Cymraeg, oedd yn gobeithio bod yn ddyn tân pan yn ifanc, roi'r gorau i'w obeithion o chwarae rygbi ar y lefel uchaf i ymuno ag Academi Seiclo Prydain yn 14 oed.
Hwylio
Enw: Hannah Mills
Camp: Dosbarth 470
Dyddiad geni: 29 Chwefror, 1988
Man geni: Caerdydd
Anrhydeddau: Pencampwr y Byd dosbarth 420 yn 2006 a dosbarth 470 yn 2012, arian yn nosbarth 270 yng Ngemau Olympaidd 2012
Roedd Mills a'i phartner, Saskia Clark ar drywydd medal aur yn Llundain cyn iddyn nhw orffen yn ail olaf yn y ras derfynol gan eu gadael gydag arian. Fe wnaeth hi ddechrau hwylio yn wyth oed, a hi yw'r ffefryn i ennill y fedal aur yn Rio.
Enw: Chris Grube
Camp: Dosbarth 470
Dyddiad geni: 22 Ionawr, 1985
Man geni: Caer
Anrhydeddau: Efydd yn rownd Miami yng Nghwpan y Byd 2014
Cafodd Grube ei adael allan o'r garfan ar gyfer gemau Llundain ar ôl i Luke Patience a Stuart Bithell, wnaeth ennill medal arian, gael eu dewis o'i flaen. Collodd ei le yng ngharfan Prydain yn 2014 oherwydd cyfres o ganlyniadau gwael, cyn cael ei baru gyda Patience ym mis Ionawr 2016 ar ôl i Elliot Willis dynnu allan oherwydd problemau iechyd.
Saethu
Enw: Elena Allen
Camp: Saethu colomennod clai - Rownd gyntaf a'r rownd derfynol
Dyddiad geni: 12 Gorffennaf, 1972
Man geni: Moscow (byw yn y Coed Duon)
Anrhydeddau: Pencwmpwr tîm saethu colomennod clai y Byd 2014, arian yn unigol yng Nghemau'r Gymanwlad 2014
Cafodd Allen ei geni ym Moscow ac roedd ei mam, Tatiana Bogdanova yn saethu i'r Undeb Sofietaidd ym Mhencampwriaethau Ewrop a'r Byd. Fe wnaeth hi symud i'r DU yn 20 oed a phriododd saethwr arall, Malcolm Allen sydd nawr yn ei hyfforddi. Mae ganddi radd mewn ieithoedd modern o Brifysgol Bradford a bydd hi'n gwneud ei thrydydd ymddangosiad mewn Gemau Olympaidd yn Rio.