Penodi Andy Legg yn rheolwr clwb pêl droed Bangor

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae cyn chwaraewr pêl droed Cymru Andy Legg wedi ei benodi yn rheolwr clwb Dinas Bangor.

Mae'n olynu Neville Powell gafodd y sac ar ôl naw mlynedd wrth y llyw.

Roedd Powell wedi ennill Cwpan Cymru dair gwaith, ac Uwch Gynghrair Cymru yn 2010-11.

Fe ddechreuodd Andy Legg sydd yn 50 oed ei yrfa broffesiynol gyda chlwb Abertawe, gan hefyd chwarae i Notts County, Birmingham a Chaerdydd.

Dywedodd ei fod yn "edrych 'mlaen i'r her.

Ychwanegodd, "Clwb pêl droed dinas Bangor yw`r clwb mwyaf yng Nghynghrair Cymru ac yn mwynhau'r gefnogaeth orau."