Abertawe yn gwrthod cynnig gan Everton am Williams
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe wedi gwrthod cynnig gan Everton am yr amddiffynnwr canol cae, Ashley Williams.
Y gred yw bod y clwb o Lerpwl wedi cynnig £10m am gapten Cymru.
Mae Williams, sy'n 31 oed, dan gytundeb gydag Abertawe tan 2018.
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb: "Nid ydym yn bwriadu ei werthu, ac felly rydym wedi gwrthod y cynnig sydd ger bron ar hyn o bryd."