Menter Iaith sydd yn 25 oed yn galw am fwy o gyllid
- Cyhoeddwyd

Wrth i'r fenter iaith gyntaf ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed mae ei phrif weithredwr wedi dweud eu bod angen mwy o arian.
Yn 1991 y cafodd Menter Cwm Gwendraeth Elli ei sefydlu, a hynny yn dilyn yr Eisteddfod yn yr ardal yn 1989.
Ar y Maes yn Y Fenni ddydd Iau bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal ar stondin Mentrau Iaith Cymru i nodi'r pen-blwydd.
Yn ôl y prif weithredwr Nerys Burton mae'r fenter yn lleol wedi gwneud "cyfraniad sylweddol" ond mae'n dweud eu bod angen mwy o arian.
"Ni'n gweithredu ardal eang gydag ychydig bach iawn o swyddogion," meddai.
'Pŵer mewn partneriaeth'
Mae Ms Burton yn cydnabod bod hyn yn alwad gan sawl sefydliad ar hyn o bryd ac yn dweud wrth edrych i'r dyfodol bod yn rhaid i fudiadau yn y maes weithio gyda'i gilydd a rhannu'r un weledigaeth.
"Mewn partneriaeth mae pŵer go iawn," meddai. "Os ydyn ni wir am lwyddo ar gyfer y Gymraeg mae'n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth gyda'r mudiadau i gyd er mwyn llwyddo."
Er bod 25 mlynedd wedi mynd heibio ers dyddiau cynnar y fenter mae Ms Burton yn hawlio mai'r un yw'r her.
Er gwaethaf canlyniadau'r cyfrifiad, oedd yn dangos cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg, mae'n gofyn sut sefyllfa fyddai ar y Gymraeg heb y mentrau iaith.
Mae'n dweud mai'r nod yw cael plant i ymddiddori yn y gweithgareddau sy'n cael eu cynnig, ac wedyn maen nhw'n aml yn cymryd diddordeb yn y fenter.
"Mae'n rhaid i bobl, boed yn blant gyda'u rhieni, ddod i sesiynau 0-7 oed ddod ar y daith gyda ni.
"Os ydyn nhw yn dechrau ar y daith gyda'r fenter yn y cyfnod cychwynnol, y cyfnod cyn ysgol, maen nhw'n dueddol i sefyll gyda ni ac mae hynny'n allweddol."