Dim parcio yma... bron

  • Cyhoeddwyd
llinellauFfynhonnell y llun, Mostyn House

Fe gafodd ymwelydd â Llandudno dipyn o sioc ar ôl gadael ei gar y tu allan i lety gwely a brecwast yn y dref.

Roedd David Carroll, 60 oed o Stockport, wedi cyrraedd am ei wyliau ddydd Llun gan barcio y tu allan i westy Mostyn House.

Pan aeth at ei gar ddydd Mercher, fe welodd bod llinellau melyn wedi eu paentio o amgylch y car.

Dywedodd Mr Carroll: "Pan wnes i barcio doedd dim llinellau o gwbl, ond fe wnaethon nhw ymddangos wedyn. Mae'r cyfan yn eitha' doniol.

"Mae'r car wedi bod yno drwy'r wythnos a dydyn ni ddim yn gadael tan heno (nos Iau)."

Bill Johnson-Newbold yw perchennog y gwesty a dywedodd: "Rwy'n credu bod hyn yn ddianghenraid... maen nhw wedi mynd â lle parcio arall i ffwrdd.

"Mae llawer o westai o gwmpas yma ac mae angen llefydd parcio. Ond os oedd rhaid gwneud hyn, pam na fydden nhw wedi cnocio'r drws a gofyn am y perchennog?"

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Conwy: "Os oes ceir wedi'u parcio pan mae gan ein contractwyr waith marcio'r ffyrdd, yna mae'r contractwyr yn cwblhau cymaint o'r gwaith ag sy'n bosib gan ddychwelyd ar ddyddiad arall i'w orffen."