Chwyn enfawr yn torri record byd

Chwyn
Image caption Mae Darren Millar yn Aelod Cynulliad Ceidwadol

Mae'r Aelod Cynulliad Darren Millar wedi dod o hyd i blanhigyn chwyn sydd wedi torri record byd.

Mae'r crepis - sydd yn debyg i ddant y llew - yn 78 modfedd o hyd ac mae Guinness World Records wedi cadarnhau ei fod yn torri record byd.

Fe ddaeth Mr Millar a'i fab o hyd i'r planhigyn mewn clawdd wrth iddyn nhw fynd a'r ci am dro ger eu cartref ym Mae Cinmel.

Yn ôl Mr Millar: "Mae'n dalach na fi. Dwi ddim yn gwneud arferiad o fynd o gwmpas yn chwilio am chwyn, ond fe wnaeth hwn ddal fy llygad i."

Fe gafodd y planhigyn ei archwilio gan John Rippin, prif arddwr Gardd Bodnant.

Yn ôl Mr Rippin: "Mae'n anghenfil anhygoel! Mae'n debyg iddo dyfu mewn llwyn ac wedi tyfu tuag at y golau.

"Mae gan blanhigion crepis lot o egni yn eu gwreiddiau felly mae hwn wedi bod yn benderfynol ac wedi tyfu tuag at y golau."