Iechyd: Angen sicrhau yr un cyfleoedd
- Cyhoeddwyd

Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ym maes iechyd yng Nghymru yn flaenoriaeth yn ôl y Prif Swyddog Meddygol newydd.
Wrth siarad gyda BBC Cymru am y tro cyntaf, dywedodd Dr Frank Atherton bod "angen sicrhau bod gan bawb yng Nghymru yr un cyfleoedd."
Dywedodd er bod rhai cleifion wedi gweld darpariaeth gofal yn gwella yma, mae angen gwneud mwy gan fod Cymru yn waeth na Lloegr mewn sawl maes.
Daw hyn ar ôl i Iechyd Cyhoeddus Cymru ryddhau adroddiad wythnos ddiwethaf yn dweud bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ym maes iechyd.
'Creu amgylchedd i wella iechyd'
Wrth gael ei holi dywedodd Dr Frank Atherton bod yna waith da eisioes yn digwydd, ond bod yna heriau hefyd.
"O edrych ar y problemau traddodiadol, smocio, yfed a gordewdra mae angen i ni edrych ar pa mor effeithiol yw'r prosesau a'r cynlluniau sydd ganddon ni mewn lle i ddelio gyda'r rhain.
"Ond hefyd... mae angen mwy o ffocws ar yr amodau i wella iechyd.
"Sut i ni'n creu amodau... sy'n hyrwyddo bwyta'n iach, ac sy'n helpu pobl i wneud dewisiadau iach sy'n dod yn ail natur iddyn nhw."
Dechreuodd Dr Atherton yn y swydd ddydd Llun 1af o Awst gan gymryd lle Dr Ruth Hussey yn dilyn ei hymddeoliad ym mis Mawrth.
Yn wreiddiol o Sir Gaerhirfryn, mae wedi gadael ei waith fel Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Iechyd yn Nova Scotia, Canada, i ddod i Gymru.
Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yng Ngogledd Swydd Gaerhirfryn a bu hefyd yn Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y DU am gyfnod.
Yn ei rôl yn Brif Swyddog Meddygol Cymru, bydd Dr Atherton yn gyfrifol am ddarparu cyngor proffesiynol annibynnol i'r Llywodraeth Cymru.
Yn rhinwedd ei swydd, bydd hefyd yn Gyfarwyddwr Meddygol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac felly'n chwarae rôl allweddol yn y meysydd rheoleiddio, addysg a hyfforddiant, a safonau a pherfformiad meddygol.