Emoji'r Ddraig Goch gam yn nes

  • Cyhoeddwyd
emoji cymru

Bydd pwyllgor Unicode - y corff rhyngwladol sydd yn rheoli testun cyfrifiaduron - yn ystyried cynnig cyflwyno 'emoji' fydd yn arddangos baner Cymru.

Ar hyn o bryd mae emoji Jac yr Undeb ar gael i ddefnyddwyr - ond does dim dewis i ddefnyddio baneri Cymru, yr Alban a Lloegr.

Bydd Unicode yn cyfarfod yn yr Unol Daleithiau'r wythnos hon i wneud penderfyniad.

Mae absenoldeb emoji ar gyfer y Ddraig Goch wedi golygu nad yw defnyddwyr Cymreig wedi cael dewis ar ffurf emoji i ddangos eu cefnogaeth yn ystod digwyddiadau cenedlaethol mawr, gan gynnwys pencampwriaeth Euro 2016.

Fe gyflwynwyd y cynnig ar gyfer y baneri newydd gan Bennaeth Cyfryngau Cymdeithasol BBC Cymru Owen Williams, a Jeremy Burge o Emojipedia.

Petai'r syniad yn cael ei gymeradwyo - fe allai'r emojis newydd fod ar gael erbyn 2017.