Abertawe yn gwerthu Andre Ayew i West Ham am £20.5m
- Cyhoeddwyd

Mae Abertawe wedi gwerthu Andre Ayew i West Ham United am £20.5m.
Ayew oedd prif sgoriwr Abertawe y tymor diwethaf - fe sgoriodd e 12 gôl ar ôl ymuno o Marseille.
Mae penderfyniad Abertawe yn golygu eu bod wedi gwneud elw sylweddol am iddyn nhw arwyddo'r gŵr o Ghana am ddim flwyddyn yn unig yn ol.
Fe ddaw'r penderfyniad i werthu Ayew ar ôl i Abertawe arwyddo Fernando Llorente o Sevilla.
Mae adroddiadau hefyd bod ymosodwr Atletico Madrid, Borja Baston ar fin ymuno â'r Elyrch am tua £15m.