Casnewydd 2-3 Mansfield

  • Cyhoeddwyd
casnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Yr ymwelwyr yn sgorio ar ôl 12 munud

Casnewydd 2-3 Mansfield

Mae Mansfield wedi trechu Casnewydd ar ôl sgorio yn yr eiliadau olaf.

Sgoriodd Kevan Hurst y gôl allweddol - ergyd o 20 metr.

Fe frwydrodd Casnewydd yn ôl ddwywaith ar ôl i'r ymwelwyr fynd ar y blaen - Jack Compton a Joss Labadie yn sgorio i Gasnewydd.

Ond roedd eu hymdrechion yn ofer wrth i Hurst sgorio am y tro cyntaf ers 2014.