Rio a'r gemau
- Cyhoeddwyd

Y Gohebydd Wyre Davies, sydd wedi bod yn sôn am ei argraffiadau o Rio de Janeiro ar ddechrau'r Gemau Olympaidd.
Dros gyfnod o tua hanner canrif, rydym wedi gwylio'r wlad enfawr yma'n codi - o gael ei galw'n wlad "Trydydd Byd" - i fod yn un o rymoedd economaidd mawr y byd.
Felly, pan yn 2009 fe benderfynwyd rhoi'r Gemau Olympaidd i Brasil a Rio De Janeiro, roedd e'n ymddangos fel dewis ysbrydoledig, anochel bron.
Ond mae Brasil yn wlad wahanol iawn i'r wlad hyderus a blaengar a welwyd saith mlynedd yn ôl.
Rydw i wedi byw, astudio ac ymweld â Rio am gyfnodau am lawer o flynyddoedd, ond ers 2013 Rio yw fy nghartref.
Mae gohebu ar y paratoadau yma i gynnal digwyddiadau enfawr fel Cwpan y Byd a'r Gemau Olympaidd wedi bod yn swydd i mi.
Wrth i wythnos lawn cyntaf y cystadlu ddechrau - mae'n rhy gynnar i ddweud a ydy'r gemau yma - y cyntaf i'w cynnal yn Ne America - yn llwyddiant, neu wrth edrych nôl, mai camgymeriad oedd hi i wneud cynnig i gynnal y gemau yn y lle cyntaf.
Newidiadau enfawr
Roedd y seremoni agoriadol nos Wener yn taro'r nodyn cywir. Roedd hi'n seremoni gymharol syml, yn costio tua degfed o extravaganza Llundain yn 2012, ond yn nodweddiadol iawn o Brasil.
Fe welwyd pwyslais mawr ar draddodiadau cerddorol mawr y wlad. Gan wneud defnydd mawr o liw a sain, roedd e'n seremoni addas o gofio'r cefndir gwleidyddol ac economaidd cythryblus.
Hyd yn oed yn ystod y tair blynedd diwethaf rwy' wedi gweld newidiadau enfawr yn y ddinas.
Nid yn unig yn y cyfleusterau chwaraeon a orchmynnwyd gan y penaethiaid Olympaidd, ond hefyd mewn isadeiledd trafnidiaeth ac amgueddfeydd mewn rhannau o'r ddinas a anghofiwyd amdano yn y gorffennol.
Fe ddywedodd Eduardo Paes, Maer lliwgar a dadleuol y ddinas, wrthyf fwy nag unwaith na fyddai'r gwelliannau yma wedi digwydd oni bai am y gemau.
Mae hynny'n iawn yn ôl pob tebyg ond y broblem yw bod gan Rio a Brasil lawer o broblemau tymor hir pwysicach y dyddiau yma na threfnu jambori rhyngwladol.
Un peth bach wnaeth fy nharo, wrth i mi gerdded o'r Maracana ar ôl sioe nos Wener, oedd drewdod ffos carthion agored wrth ymyl y stadiwm.
Fel llawer o nentydd ac afonydd llygredig yr ardal, mae'n llifo yn syth i'r bae wrth ymyl y ddinas.
Stadia chwaraeon newydd neu daclo problemau amgylcheddol a chymdeithasol? Mae'n dibynnu, mae'n debyg, ar eich blaenoriaethau.
Rwy'n gobeithio yn fawr bydd y gemau, a'r gemau paralympaidd yn llwyddo - mae Rio wedi cael ei esgeuluso am ddegawdau.
Am lawer o resymau mae'n haeddu cael cydnabyddiaeth fel un o ddinasoedd mawr y byd.
Ond chi'n cael y teimlad bod llawer o'r ewfforia, yr ewyllys da, a'r gobaith a welwyd nôl yn 2009 wedi diflannu.
Mae gwerthiant tocynnau ar gyfer llawer o ddigwyddiadau, yn enwedig ymhlith y trigolion lleol, yn siomedig.
I'r Caariocas sy'n poeni am eu swyddi a'u cyflogau mae tocynnau yn ddrud ac mae brwdfrydedd tuag at y gemau, yn enwedig y tu allan i Rio, yn wan.
Rwy'n siŵr bydd y gemau yn osgoi argyfwng mawr, a prin bydd rhai o broblemau Rio yn cael sylw'r ymwelwyr - bydd 85,000 o filwyr ar y strydoedd yn cadw trefn ar ystadegau tor cyfraith erchyll y ddinas.
Dyma ddinas sydd yn mwynhau bywyd ac yn caru chwaraeon. Yn ystod y pythefnos nesaf, Rio fydd y lle mwyaf deniadol a bywiog yn y byd.
Ond pan fydd yr ymwelwyr, yr athletwyr a'r newyddiadurwyr wedi mynd, bydd llawer o broblemau tymor hir Rio yn parhau.