Galw i fywiogi Senedd 'ddiflas'

  • Cyhoeddwyd
Steffan Lewis
Disgrifiad o’r llun,
Mae Steffan Lewis yn cynrychioli Rhanbarth Dwyrain De Cymru yn y Cynulliad

Yn ôl yr Aelod Cynulliad Steffan Lewis, dyw pobl ddim yn dilyn trafodaethau'r Senedd ym Mae Caerdydd gan eu bod yn "rhy ddiflas".

Wrth rannu ei argraffiadau o'i dymor cyntaf yn y Cynulliad mewn erthygl i'r Sefydliad Materion Cymreig, dywedodd fod y siambr yn debycach i swyddfa na chanolbwynt democratiaeth Cymru.

Esboniodd yr Aelod Plaid Cymru ei fod yn clywed cwynion rheoliad fod y cynulliad yn "ddiflas".

"Dyw pobl ddim yn dilyn beth sy'n digwydd achos bod tro maen nhw'n dod i wylio, maen nhw'n gweld fod y trafodion yn rhy ddiflas.

"Dwi'n gwybod fod y polau piniwn yn dangos nad yw pobl yn hoffi'r holl weiddi yn Nhŷ'r Cyffredin, ond dwi'n amau falle bod y rhan fwyaf o bobl yn ei ffeindio fe'n ddifyr."

"Fel swyddfa agored"

Ac eithrio sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog ac "ambell ddadl" dywedodd fod y siambr "yn edrych mwy fel swyddfa agored na chanolbwynt democratiaeth y genedl".

Yn yr erthygl mae Mr Lewis yn cydnabod fod "misoedd cyntaf y Cynulliad yma wedi bod yn fwy cyffrous na'r gorffennol".

"Mae refferendwm yr Undeb Ewropeaidd wedi cynnig digon o gyfle am ddrama ar ddwy ochr y drafodaeth," dywedodd.

Pan fydd digwyddiad diddorol yno, fel etholiad y Prif Weinidog, esboniodd fod yr holl docynnau ar gyfer yr oriel wylio yn diflannu.

"Dwi'n credu fod cyfrifoldeb ar y pleidiau gwleidyddol i fod yn fwy creadigol gyda'r testunau y maen nhw'n dewis eu trafod yn y Senedd.

"Gallai hyn fywiogi'r sesiynau ac annog dadlau angerddol ar bynciau mwy amserol."

Newid arall y mae'n ei gynnig yw system o holi cwestiynau i'r Prif Weinidog yn ddirybudd a hynny "er mwyn gwneud y senedd yn llai rhagweladwy".

Ar hyn o bryd dim, ond cwestiynau gan arweinwyr y gwrth bleidiau sy'n ddirybudd - mae'r gweddill wedi eu cyflwyno o flaen llaw a'r atebion wedi eu paratoi o flaen llaw hefyd.

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r Llywydd newydd am weld "bwrlwm" yn y Senedd

Ymateb y Llywydd

Mewn ymateb i'w sylwadau dywedodd Elin Jones, Llywydd y Cynulliad, ei bod hi'n "falch bob amser o glywed syniadau newydd."

"Dwi'n cytuno fod yna waith i'w wneud i sicrhau fod gwaith y Cynulliad yn fwy perthnasol ac amserol.

"Fe fydda i'n cyd-weithio'n agos gyda fy nghydweithwyr ar Bwyllgor Busnes y Cynulliad i wireddu fy ngweledigaeth o weld mwy o fwrlwm yn y sesiwn lawn.

"Fe allwn roi amser i fusnes newydd fel datganiadau gan gadeiryddion pwyllgorau, trafodaethau ar ddeddfwriaeth sy'n cael ei gynnig gan aelodau unigol, a chyfraniad gan y cyhoedd wrth benderfynu ar fusnes y sesiwn lawn."

Symud cyfrifiadur

Pan ddechreuodd Steffan Lewis ar ei rôl fel Aelod Cynulliad fe ofynnodd i'r Llywydd a fyddai modd tynnu ei gyfrifiadur o'r siambr fel ei fod yn gallu canolbwyntio'n llwyr ar y trafodion.

Yn ôl Mr Lewis: "Ges i'r ateb nad oedd hynna'n dderbyniol gan y gallai effeithio ar esthetig y siambr ei hunan."

Erbyn hyn mae wedi dod i gyfaddawd. Mae'r cyfrifiadur o'i flaen o hyd ond dyw e byth yn ei ddefnyddio.