Timau achub yn chwilio am ddyn ger Mwnt

  • Cyhoeddwyd
Mwnt
Disgrifiad o’r llun,
Hofrennydd Gwylwyr y Glannau yn chwilio

Mae timau achub a hofrennydd Gwylwyr y Glannau yn parhau i chwilio am ddyn ar ôl iddo ddisgyn i'r môr yn Mwnt ger Aberteifi.

Roedd dau ddyn yn cerdded ar y creigiau pan ddisgynnodd un o'r ddau i'r dŵr ddydd Sul.

Mae hofrennydd achub Gwylwyr y Glannau, ar y cyd thimau bad achub Aberteifi a Chei Newydd, wedi bod yn chwilio am y dyn.

Rhoddodd y badau achub y gorau i chwilio'r môr am y dyn am 11:15 fore dydd Llun.

Mae timau achub wedi cael eu danfon yno hefyd o Wbert, Aberteifi, a Threwyddel.