Dyfodol Nathan Gill yn nwylo aelodau UKIP yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Bydd aelodau UKIP yng Nghymru yn penderfynu a ddylai Nathan Gill gael parhau yn Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Ewrop.
Roedd pwyllgor y blaid wedi bygwth diarddel yr arweinydd yng Nghymru os nad oedd yn ymddiswyddo o un o'r ddwy rôl.
Ond daeth y pwyllgor i'r casgliad ddydd Llun y dylai'r aelodau ar lawr gwlad yng Nghymru bleidleisio ar y mater.
Dywedodd cadeirydd UKIP, Paul Oakden, mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud.
Ni wnaeth Mr Gill ymateb i'r cais i gamu o'r neilltu ddydd Llun felly cafodd ei ddiarddel am gyfnod o'r blaid.
Ond fe bleidleisiodd y pwyllgor gwaith o blaid ei ailbenodi gan benderfynu rhoi'r gair olaf i'r aelodau.
"Mae'r pwyllgor gwaith yn credu, fel y rwyf i, mai'r aelodau yng Nghymru yw'r bobl orau i wneud y penderfyniad hwn," meddai Mr Oakden.
"Byddaf yn penderfynu nawr sut i wneud hyn yn deg, mewn ffordd lân cyn gynted ac sy'n bosib."