Rio: Medal arian i Jazz Carlin

  • Cyhoeddwyd
Jazz Carlin with her medalFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gymraes Jazz Carlin wedi ennill medal arian dros Team GB yn y Gemau Olympaidd yn Rio.

Daeth Carlin yn ail yn y ras nofio 400m dull rhydd y tu ôl i Katie Ledecky o'r Unol Daleithiau.

Roedd amser Carlin - 4:01:23 - yn record Gymreig newydd.

"Fedra i ddim credu'r peth," meddai, "dwi bron yn fy nagrau."

"Dwi mor ddiolchgar i bawb adre am eu cefnogaeth ac i bawb a gododd ar yr awr annaearol yma o'r bore i wylio.

"Roeddwn i am ddod yma i rhoi popeth. Dwi wedi fy syfrdanu i gael yr arian."

Enillodd Carlin yr aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow ddwy flynedd yn ôl yn yr 800m ac arian yn y 400m.