32 o bobl i golli swyddi yn ffatri Siemens yn Llanberis

Siemens Image copyright Siemens

Mae cwmni technoleg Siemens wedi cadarnhau y bydd hyd at 32 o bobl yn colli eu swyddi yn eu ffatri yn Llanberis, Gwynedd.

Dywedodd y cwmni bod llai o alw am eu nwyddau IMMULITE, sydd yn cael eu cynhyrchu ar y safle.

Mae'r nwyddau'n cael eu defnyddio ar ddadansoddwyr gwaed mewn ysbytai.

Ar hyn o bryd mae'r cwmni yn cyflogi 415 ar y safle yn Llanberis.

Dywedodd Siemens Laboratory Diagnostics bod llai o alw am y nwyddau yn golygu y byddai'n rhaid lleihau'r gweithlu er mwyn i'r cwmni sicrhau "twf cynaliadwy ac iach" yn y dyfodol.

Ychwanegodd y cwmni y bydden nhw'n cynnig diswyddiadau gwirfoddol a cheisio canfod swyddi newydd ble bo'n bosib i'r rheiny oedd yn cael eu heffeithio.