Miliband yn cefnogi Smith fel arweinydd y Blaid Lafur
- Cyhoeddwyd

Mae cyn arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband wedi cyhoeddi ei fod yn cefnogi AS Pontypridd, Owen Smith i fod yn arweinydd nesaf y blaid.
Mae Mr Smith yn cystadlu gyda'r arweinydd presennol, Jeremy Corbyn am yr arweinyddiaeth.
Mewn fideo ar wefan YouTube, dywedodd Mr Miliband: "Gallai'r penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud dros y misoedd nesaf ddiffinio ein gwlad am ddegawdau.
"Mae gennym ni Brif Weinidog Torïaidd newydd, Theresa May, sy'n honni ei bod yn cynrychioli'r chwith ond gallai hi fynd yn bellach i'r dde gyda chynllun Brexit caled.
"Rydw i eisiau arweinydd i'r Blaid Lafur sy'n gallu codi i'r sialens o'r foment yma.
"Rydw i eisiau arweinydd all uno ein plaid a'n gwneud yn opsiwn gwahanol ymarferol i'r llywodraeth, ac arweinydd all ei'n cael ni allan o'r argyfwng yma a'i wneud yn ymgyrch blaengar.
"Dyna pam fy newis i ar gyfer arweinydd y Blaid Lafur ydi Owen Smith."