Arolygwyr yn atal gwasanaeth gwarchod plant yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
AGGCCFfynhonnell y llun, CSSIW

Mae pedwar o bobl sy'n gwarchod plant yn Wrecsam wedi cael eu hatal o'u gwaith dros dro tra bod arolygwyr yn cynnal ymchwiliad.

Dywed Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru eu bod wedi atal gwasanaeth gwarchod Blythswood ar 28 Gorffennaf.

Fe wnaeth yr Arolygaeth gysylltu â rhieni gan eu hysbysu i ddod i nôl eu plant gan ddweud fod y gwasanaeth wedi ei atal.

Fe fydd y safle yn parhau ar gau tan fod yr ymchwiliad wedi ei gwblhau.

"Rydym yn parhau i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Wrecsam tra ein bod yn ymchwilio i'n canfyddiadau yn dilyn ein hymweliad 28 Gorffennaf.

"Ein blaenoriaeth yw diogelwch plant sy'n defnyddio gwasanaethau gofal."