Cynnydd mewn ffermwyr sydd dan bwysau ariannol
- Cyhoeddwyd

Mae elusen sy'n gwarchod buddianau pobol o fewn y diwydiant ffermio wedi gweld cynnydd dramatig yn nifer y teuluoedd sy'n cael trafferth i ddal dau ben llinyn ynghyd.
Cafodd Sefydliad Brenhinol Lles Amaethyddol (Rabi) ei sefydlu i helpu ffermwyr a gweithwyr wedi ymddeol.
Mae faint o gymorth a roddir gan Rabi Cymru yn y chwe mis cyntaf y flwyddyn hon 84% yn uwch nag ar gyfer yr un cyfnod yn 2015.
Mae bron i draean o gymorth wedi mynd i ffermwyr ym Mrycheiniog a Maesyfed.
Rhwng 1 Ionawr a 15 Gorffennaf, 2016, rhoddodd Rabi Cymru gymorthdaliadau gwerth £60,258 i deuluoedd sy'n gweithio ar ffermydd ar hyn o bryd.
Ar gyfer yr un cyfnod yn 2015 roedd y ffigwr yn £32,739.
Wrth edrych ar gymorthdaliadau ar gyfer pob oed ledled Cymru, mae'r elusen wedi talu £164,173 ar gyfer hanner cyntaf y flwyddyn hon, sy'n gynnydd o 32% ar yr £124,354 ar gyfer yr un cyfnod y llynedd.
Mae Fiona Jones yn rhedeg fferm ger Trefyclo gyda'i mab Rhys a'i merch Nerys, ar ôl symud yno gyda'i gŵr Simon 12 mlynedd yn ôl a'i dyfu o fod yn 118 acer i 190 acer.
Ond fe gafodd Simon Jones wybod ei fod yn dioddef o ganser yn 2012, a bu farw ychydig cyn y Nadolig llynedd.
Roedd yn rhaid i Fiona a'i mab roi'r gorau i swyddi ychwanegol er mwyn helpu ar y fferm, ac fe gynigiodd Rabi gymorth wrth wneud cais am fudd-daliadau salwch i'w gŵr, yn ogystal â darparu grant am lety er mwyn iddi allu ei ymweld a'r ysbyty.
"Roedd y fferm yn talu'r biliau dydd i ddydd ac roedd fy swydd oddi ar y fferm yn talu am unrhyw beth ychwanegol," esboniodd Mrs Jones.
"Pan nad oes gennych chi'r incwm hwnnw, rydych chi'n ei chael hi'n anodd.
"Dwi'n meddwl bod tipyn o deuluoedd allan yno sydd efallai'n rhy falch neu â gormod o gywilydd i ofyn am gymorth. Dwi'n falch ein bod ni wedi gofyn am gymorth, mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ni."
Ychwanegodd Rhys: "Mae'n anodd gwneud bywoliaeth o'r peth, mae'n gyfnod anodd a gydag Ewrop mae'n gyfnod ansicr hefyd.
"Ond dwi wrth fy modd gyda'r swydd, dwi wedi gweithio mewn swyddfa ac mae rhywbeth gwahanol am y bywyd gweithio tu fas; mae rhan ohonai sydd yn gwybod bod Dad wedi gweithio'n galed iawn i gyrraedd ble roedd e a doeddwn i ddim eisiau iddo gael ei wastraffu."
'Prisiau isel'
Dywedodd Rabi Cymru fod cynnydd o 84% wedi bod mewn cymorth ar gyfer teuluoedd sy'n ffermio ym Mrycheiniog a Maesyfed, o'i gymharu a £10,185 yn ystod hanner cyntaf 2015, i £18,715 ar gyfer yr un cyfnod y flwyddyn hon.
Yn ôl Elaine Stephens, cadeirydd cangen Brycheiniog a Maesyfed o elusen Rabi Cymru: "Fe allai tywydd ac amgylchiadau teuluol eithriadol i gyd effeithio ar ffermwyr ar wahanol adegau, ond mae prisiau isel oedd y prif reswm eleni.
"Mae'n anodd iawn ar ffermwyr pan nad ydynt yn gwybod pa bris y maent yn mynd i gael ar ddiwedd y dydd ac mae'r rhan fwyaf prisiau'r farchnad yn dioddef ar hyn o bryd."
Mae cymorthdaliadau wedi cynnwys cymorth i dalu biliau trydan.
"Os bydd ffermwr yn cael trafferth i dalu biliau teuluol, yna ei blant a'i wraig fydd yn cael eu heffeithio," meddai Ms Stephens.
"Mae ffermio yn ddiwydiant unig iawn a gall ffermwyr deimlo'n unig iawn."
Dywedodd ei bod yn bwysig cofio bod offer fel tractorau a cherbydau 4x4 yn "offer y swydd" ac nid eitemau moethus y gellid eu gwerthu.