Katherine Jenkins yn trafod creu sioe deledu i blant

  • Cyhoeddwyd
Katherine Jenkin

Mae'r gantores Katherine Jenkins a'i gŵr Andrew Levitas mewn trafodaethau i gynhyrchu cartŵn deledu newydd i blant.

Bydd 'Stryd Symffoni' yn cael ei anelu at blant 4-8 mlwydd oed, ac mae'r gantores yn gobeithio y bydd y gyfres gyntaf i'w gweld ar S4C yn 2018.

Bydd un o'r cymeriadau yn cael ei lleisio gan Jenkins, a ddywedodd fod genedigaeth ei merch Aaliyah wedi ysbrydoli'r prosiect.

Dywedodd: "Rwyf wedi bod mewn cariad â cherddoriaeth glasurol cyhyd ag y gallaf gofio, a drwy'r prism cerddorol hon, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ddysgu cynifer o wersi bywyd.

"Mae cerddoriaeth yn iaith ryngwladol. Nid yw'n gweld lliw, hil, dosbarth neu gredo, ac mae'r gwersi sy'n cael eu dysgu drwy gerddoriaeth yn cyfieithu'n hawdd i fywyd bob dydd.

"Gyda hyn mewn golwg, mae fy ngŵr a minnau wedi mynd ati i greu hwyl a chyffro'r llwyfan cerddorol i addysgu ein merch fach ein hunain."

Amryw o arddulliau

Bydd y gyfres yn dilyn criw o ffrindiau cerddorol, ac fe fydd yn cynnwys cerddoriaeth mewn amryw o arddulliau.

Bydd Katherine Jenkins yn chwarae ei rôl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Gobaith y gantores yw i'r gyfres ymddangos yn gynnar yn 2018.