Casnewydd 2-3 MK Dons

pel-droed Image copyright Huw Evans picture agency

Y clwb o Adran Un, Milton Keynes Dons, fydd yn mynd ymlaen i ail rownd Cwpan EFL ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Sir Casnewydd nos Fawrth.

Fe sgoriodd Dean Bowditch yn ystod amser ychwanegol i selio'r fuddugoliaeth, gan ychwanegu at ei gôl gynharach, wedi o'r smotyn, ac at gôl gynharach gan Ben Tilney.

Ymosodwr Yr Alltudion, Marlon Jackson oedd y cyntaf i sgorio, wedi 31 munud o'r chwarae.

Fe ddaeth yr ail fantais i Gasnewydd wedi cic o'r smotyn gan Mark Randall, ond fe lwyddodd y Dons i daro'n ôl yn galed a chwalu mantais y tîm cartref.