Ymchwiliad i ddamwain hofrennydd ar gopa yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
HofrennyddFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis

Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio i ddarganfod pam fod hofrennydd Yr Awyrlu wedi gorfod glanio ar frys ar gopa mynydd yn Eryri cyn cael ei ddinistrio gan fflamau.

Roedd pump o bobl ar fwrdd yr hofrennydd hyfforddi pan fu rhaid iddo lanio ar Yr Aran am tua 13:45 ddydd Mawrth.

Ychydig wedi hynny, roedd yr hofrennydd Griffin o wersyll RAF Fali ar Ynys Môn ar dân.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad ond roedd cerddwyr yn yr ardal yn gweld mwg du yn dod o'r copa.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn bod ymchwiliad wedi dechrau ac y byddai gweddillion yr hofrennydd yn parhau ar y mynydd nes iddo orffen.

Roedd pump o bobl ar ei bwrdd ar y pryd - pedwar aelod milwrol ac un aelod o'r cyhoedd - gydag un person arall ar y mynydd.

Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis