Diffodd tân ar safle ailgylchu yng nghymoedd Gwent
- Cyhoeddwyd

Mae diffoddwyr tân wedi diffodd tân mawr ar safle ailgylchu yng nghymoedd Gwent.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r digwyddiad ar stad ddiwydiannol Newtown yn Crosskeys ychydig cyn 07:00 fore Iau.
Bu chwe injan dân yno ac roedd mwg du yn chwythu dros yr ardal.