Carcharu dyn am ladd ei gyn-gariad yng Nghastell-nedd
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 44 oed wedi ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar ar ôl lladd ei gyn-gariad yng Nghastell-nedd.
Cafwyd hyd i gorff Andrea Lewis, 51 oed, ar lawr y gegin mewn eiddo yn Fairlyland Road yn Nhonna ar 30 Ionawr eleni.
Fe blediodd Rhys Hobbs, o bentref Tonnau, yn euog i ddynladdiad fis diwethaf.
Roedd Ms Lewis wedi torri'i phenglog a nifer o'i hasennau, ac roedd ganddi gleisiau ar 41 rhan gwahanol o'i chorff.
Ar ôl i Hobbs gael ei garcharu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau, dywedodd yr Arolygydd Rob Cronick o Heddlu De Cymru bod Ms Lewis wedi "dioddef o drais yn y cartref gyda hynny yn y pen draw wedi arwain at ei marwolaeth".