Cyhuddo dyn o Lanelli o droseddau hacio cyfrifiadurol
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 19 oed o Gymru wedi ei gyhuddo o droseddau'n ymwneud a hacio cyfrifiaduron ar draws y byd.
Cafodd Daniel Mark Kelley o Lanelli ei gyhuddo o hacio cyfrifiaduron wnaeth effeithio ar systemau Coleg Sir Gâr, a blacmelio cwmnïau ac unigolion yn Awstralia a Chanada ar ôl hacio i wefannau a dwyn gwybodaeth breifat.
Mae'r cyhuddiadau'n dilyn ymchwiliad gan uned troseddau cyfrifiadurol Tarian sy'n cynnwys swyddogion o dri o heddluoedd Cymru.
Cafodd Mr Kelley ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Westminster fis nesaf.