Rio: Medal arian i Victoria Thornley yn y rhwyfo
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gymraes, Victoria Thornley wedi ennill medal arian yn y parau rhwyfo yng Ngemau Olympaidd Rio gyda'i phartner Katherine Grainger.
Magdalena Fularczyk-Kozlowska a Natalia Madaj o Wlad Pwyl oedd yn fuddugol mewn amser o 7 munud a 40 eiliad.
Roedd hi'n ras agos rhwng Prydain a Gwlad Pwyl, gyda Thornley, 28 oed, a Grainger, 40, ar y blaen am y rhan fwyaf o'r ornest.
Ond llwyddodd y Pwyliaid i fynd ar y blaen yn y 500m olaf o'r ras 2,000m, gan ennill o hyd hanner cwch.
Dim ond ers y llynedd mae Thornley a Grainger wedi bod yn rasio gyda'i gilydd, ac mae'r canlyniad yn golygu mai Grainger yw'r fenyw fwyaf llwyddiannus o Brydain yn y Gemau Olympaidd erioed, gyda phump o fedalau.
Dyma oedd yr ail fedal arian i Gymraes yn y Gemau, wedi i'r nofwraig Jazz Carlin orffen yn ail yn y 400m dull rhydd ddydd Sul.