Rio: Tîm rygbi 7-pob-ochr Prydain yn y ffeinal
- Cyhoeddwyd

James Davies (ail o'r chwith) yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn De Affrica
Mae tîm rygbi 7-pob-ochr dynion Prydain yn sicr o ennill o leiaf medal arian yng Ngemau Olympaidd Rio ar ôl iddyn nhw sicrhau eu lle yn y ffeinal.
Bydd Team GB yn herio Fiji yn hwyr nos Iau ar ôl trechu De Affrica o 7-5 yn y rownd gynderfynol.
Mae dau o Gymru yn rhan o'r garfan - y Scarlet James Davies a chwaraewr 7-pob-ochr rhyngwladol Cymru, Sam Cross.
Roedd De Affrica ar y blaen o 5-0 ar yr hanner cyn i gais Dan Norton a throsiad Tom Mitchell roi Prydain ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner.
Mae'r tîm eisoes wedi trechu Kenya, Japan, Seland Newydd ac Ariannin yn y gystadleuaeth.