Bristol Rovers 1-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Frederic GounongbeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Fe fethodd Frederic Gounongbe gyfle hwyr i'r Adar Gleision

Mae Caerdydd allan o Gwpan y Gynghrair wedi iddyn nhw golli o 1-0 i ffwrdd o gartref yn erbyn Bristol Rovers.

Ar ôl 90 munud di-sgôr fe aeth y gêm i amser ychwanegol, ac fe sgoriodd Chris Lines ar ôl 115 munud o chwarae i gipio'r fuddugoliaeth.

Cafodd ymosodwr Caerdydd Frederic Gounongbe gyfe i unioni'r sgôr gyda dau funud i fynd ond fe darodd y postyn.

Roedd hyfforddwr yr Adar Gleision Paul Trollope wedi dewis tîm cryf ar gyfer y gêm, gyda'r Cymry Jazz Richards a Declan John yn dechrau unwaith eto fel y cefnwyr dde a chwith.

Fe ddechreuodd Bristol Rovers gyda dau Gymro yn eu tîm hefyd, yr amddiffynnwr Tom Lockyer, 21, a'r ymosodwr Ellis Harrison, 22.

Roedd ganddyn nhw ddau arall ar y fainc, Billy Bodin a Jermaine Easter, gyda Bodin yn dod ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner.

Ychydig iawn o gyfleoedd a gafwyd yn hanner cyntaf y gêm, ond fe lwyddodd Caerdydd i fygwth ychydig yn fwy ar ôl yr egwyl gydag Anthony Pilkington a Craig Noone yn methu cyfleoedd.

Parhau'n ddi-sgôr wnaeth hi fodd bynnag, gyda Chaerdydd yn gorffen y gêm gyda deg dyn yn dilyn anaf i Stuart O'Keefe yn ystod amser ychwanegol a hwythau eisoes wedi dod â thri eilydd ymlaen.

Roedd hi'n edrych fel petai'r gêm am fynd i giciau o'r smotyn, ond yna fe rwydodd Lines gydag ergyd wych i sicrhau mai'r tîm o Fryste fyddai'n cyrraedd y rownd nesaf.