James Chester yn symud i Aston Villa
- Cyhoeddwyd

Mae Aston Villa wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo'r Cymro James Chester o West Brom.
Dywedodd rheolwr Villa, Roberto di Matteo ei fod yn awyddus i arwyddo'r amddiffynnwr er mwyn cryfhau'r garfan ar gyfer eu tymor yn y Bencampwriaeth.
Roedd Chester yn un o sêr Cymru yn Euro 2016 wrth i'r tîm gyrraedd y rownd gynderfynol.
Ond mae'r chwaraewr 27 oed wedi cael trafferth ennill lle yn nhîm West Brom ers symud yno o Hull am £8m yn 2015.
Prynhawn dydd Gwener fe anfonoddd perchennog Aston Villa, Tony Xia, lun ar Twitter o'i hun gyda Chester gan ei groesawu i'r clwb.
Mae Aston Villa eisoes wedi colli'u dwy gêm gyntaf o'r tymor ers disgyn o'r Uwch Gynghrair, ar ôl cael eu trechu 1-0 gan Sheffield Wednesday yn eu gêm gynghrair agoriadol cyn colli 3-1 i Luton yng Nghwpan y Gynghrair.