Darganfod corff ar draeth Y Bermo yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd

Aeth Waseem Al-Muflehi (chwith) ar goll yn y môr gyda Yahya Mohammed (dde)
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod corff wedi ei ddarganfod ar draeth ger Y Bermo ddydd Gwener.
Daw hyn wedi i ddau fachgen yn eu harddegau, Waseem Al-Muflehi, 15, a Yahya Mohammed, 14, fynd ar goll ar ôl mynd i drafferthion ar draeth Y Bermo ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y corff wedi ei ddarganfod i'r gogledd o'r dref.
Nid yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol hyd yma, a dywedodd yr heddlu nad oes mwy o wybodaeth ar gael ar hyn o bryd.