Medal arian arall i Jazz Carlin yn y Gemau Olympaidd

Jazz C Image copyright Getty Images

Mae Jazz Carlin wedi ennill medal arian yn y ras nofio 800m dull rhydd yn y Gemau Olympaidd yn Rio.

Hon yw ei hail fedal arian, ar ôl iddi ddod yn ail yn y ras nofio 400m dull rhydd ddechrau'r wythnos.

Yr Americanes Katie Ledecky gipiodd y fedal aur a Boglarka Kapas o Hwngari gafodd y fedal efydd.

Ar ôl y ras fe ddywedodd Jazz Carlin ei bod hi'n ddiolchgar iawn i'w theulu: "Fydden ni ddim yn gallu gwneud hyn heb fy nheulu.

"Mae nhw wedi bod yna yn ystod y cyfnodau caled ac mae'n braf eu bod nhw yn gallu bod yma yn y gemau.

"Dwy fedal arian, mae'n deimlad anhygoel. O'r diwedd dw i'n dechrau credu ynof fi fy hun."

Enillodd Carlin yr aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow ddwy flynedd yn ôl yn yr 800m ac arian yn y 400m.