Y cyn bêl-droediwr Mel Charles wedi marw

Mel Charles Image copyright PA
Image caption Mel Charles yn lliwiau Arsenal yn 1962

Yn 81 oed, bu farw'r cyn bêl-droediwr Mel Charles.

Enillodd 31 o gapiau dros Gymru, gan ymddangos yng Nghwpan y Byd 1958 yn Sweden a chael ei enwi yn nhîm y gystadleuaeth gan FIFA.

Cafodd Melfyn Charles ei eni yn Abertawe, ac roedd yn frawd iau i John Charles, sy'n cael ei ystyried fel un o bêl-droedwyr gorau Cymru.

Chwaraeodd Mel Charles dros Abertawe, Arsenal a Chaerdydd, cyn ymddangos i amryw o glybiau llai amlwg yng Nghymru, gan gynnwys Porthmadog.

Fel ei frawd, aeth trwy gydol ei yrfa heb dderbyn cerdyn melyn neu goch. Roedd yntau hefyd yn gallu chwarae yn yr amddiffyn neu fel ymosodwr.

Yn ddiweddar, roedd yn byw mewn cartref gofal yn ei dref enedigol, Abertawe.

Image caption Mel Charles mewn seremoni goffa i'w frawd yn 2004