Cwpl oedrannus wedi marw mewn tân tŷ yn Neganwy

Parc Gorllewin Gannock Image copyright Google
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Barc Gorllewin Gannock ychydig cyn 07:45 fore Mawrth

Mae dau berson wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir Conwy fore Mawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Barc Gorllewin Gannock yn Neganwy ychydig cyn 07:45.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod cwpl priod - dyn yn ei 90au a dynes yn ei 80au - wedi marw o ganlyniad i'r tân.

Roedd dynes arall oedd yn y tŷ ar y pryd wedi llwyddo i wneud ei ffordd allan o'r adeilad cyn i ddiffoddwyr gyrraedd.

Nam trydanol

Yn dilyn ymchwiliad, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y gogledd ei bod yn debyg mai nam trydanol wnaeth achosi'r tân.

Yn ôl yr heddlu, roedd y tân dan reolaeth yn fuan wedi iddyn nhw gyrraedd y digwyddiad.

Dywedodd Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân y gwasanaeth: "Rydyn ni'n cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau'r rhai sydd wedi marw.

"Mae'r tân yn amlygu'r perygl o danau trydanol a'r oblygiadau trasig - maen nhw'n gallu digwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le."