Darganfod tenant £1 am fferm £1m ar y Gogarth, Llandudno

Mae tenant wedi ei ddarganfod ar gyfer fferm gwerth £1m er mwyn diogelu tirwedd "bregus" yr ardal.
Bydd Dan Jones, 38 o Ynys Môn, yn talu £1 y flwyddyn mewn rhent i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am Fferm y Parc ar y Gogarth ger Llandudno.
Fe wnaeth yr ymddiriedolaeth amddiffyn y tir llynedd pan oedd ar werth fel safle posib am gwrs golff.
Mae rhywogaethau a chynefinoedd prin ar y safle, ac mae'r elusen yn dweud nad oes rhai ohonynn nhw yn bodoli'n unman arall yn y byd.
Dywedodd Mr Jones nad oedd yn gallu credu'r peth pan gafodd yr alwad i ddweud bod ei gais yn llwyddiannus.
"Mae fy ngwraig, Ceri, fy mab, Efan a finnau'n hollol gyffrous. Bydd y cyfle yn newid ein bywydau," meddai.
"Mae Y Parc yn freuddwyd, mae mewn safle mor brydferth, mae'r golygfeydd yn wych a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at ffermio mewn ffordd wahanol i wneud gwahaniaeth i fyd natur.
"Gyda'r denantiaeth ond yn £1, mae'n galluogi i ni ffermio mewn ffordd llawer llai dwys, canolbwyntio ar wella'r cynefinoedd, rhannu'r hyn rydyn ni'n ei wneud gydag ymwelwyr a chynhyrchu bwyd grêt."
Dyma'r ail dro i Mr Jones, sy'n ffermio 1,000 o ddefaid ar Ynys Môn ar hyn o bryd, gael cyfle gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dwy flynedd yn ôl, cafodd rôl bugail yn Eryri gyda'r elusen.
Dywedodd rheolwr cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, William Greenwood, bod ymgeiswyr wedi gorfod dangos sut i sicrhau bod y fferm yn llwyddiannus fel busnes, ac esbonio sut y byddai eu profiadau yn eu galluogi i ddiogelu'r safle.
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n sicr bod gan Dan a Ceri'r cyfuniad prin o sgiliau a phrofiadau yr ydym yn edrych amdanynt, ac yn gwpl fydd yn gweld y fferm fel un gynhyrchiol sy'n cadw bywyd gwyllt yn iach ac yn annog ymwelwyr i wneud gwahaniaeth dros fyd natur, yn ogystal â chynhyrchu bwyd iach."