Carcharu dyn o Wrecsam am dacl ar gae pêl-droed

Nicholas Williams Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Cafodd tacl Nicholas Williams ei ddisgrifio gan y barnwr fel gweithred o ffyrnigrwydd syfrdanol

Mae pêl-droediwr amatur wedi cael ei garcharu am 12 mis ar ôl torri coes gwrthwynebydd mewn gêm.

Cafodd Nicholas Williams, 26, o Acrefair, Wrecsam ei ganfod yn euog gan y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon o achosi anaf corfforol difrifol.

Digwyddodd y dacl yn ystod gêm gwpan fis Hydref diwethaf rhwng Cefn Albion, tîm Williams, a CPD Brynford.

Roedd rhaid rhoi'r gorau i'r gêm wedi i Williams hedfan i mewn i dacl ar Andrew Barlow, a thorri esgyrn ffibiwla a thibwla yng nghoes ei wrthwynebydd.

Cafodd y dacl ei disgrifio fel gweithred o ffyrnigrwydd syfrdanol gan y barnwr Huw Rees.

Ond mynnodd Mr Williams mai damwain oedd hi, ac mai dim ond ychydig yn hwyr oedd y dacl.

Mae Mr Barlow yn parhau i dderbyn triniaeth ac fe ddywedodd yr erlyniad yn ystod yr achos nad oedd wedi llwyddo i ddychwelyd i'r gwaith eto.

Ychwanegodd yr erlyniad bod Williams wedi anafu Mr Barlow i "ddial" am dacl arall yn gynharach yn y gêm.