'Dim gwaharddiad' ar faner Cymru yn y Gemau Olympaidd

Jade Jones oedd yr unig un o'r Cymry a enillodd fedal i chwifio'r Ddraig Goch Image copyright Getty Images
Image caption Jade Jones oedd yr unig un o'r Cymry i chwifio'r Ddraig Goch ar ôl ennill medal yn Rio

Mae corff rheoli'r Gemau Olympaidd wedi cadarnhau nad oedd baner Cymru wedi'i gwahardd o'r Gemau, er gwaethaf dyfalu mawr ar gyfryngau cymdeithasol.

Roedd amryw wedi bod yn cwestiynu diffyg presenoldeb y Ddraig Goch yn Rio de Janeiro dros y pythefnos diwethaf, gyda sawl un yn honni fod y seiclwraig Becky James wedi gwrthod chwifio'r Ddraig Goch er mwyn cael baner Jac yr Undeb ar ôl iddi ennill medal.

Ond mewn ymateb i ymholiadau Cymru Fyw, dywedodd llefarydd ar ran y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC): "Yr oll y mae'r IOC yn ei ofyn yw bod gwylwyr ddim yn arddangos unrhyw beth all gael ei weld fel rhyw fath o ddatganiad propaganda sy'n hiliol, grefyddol neu'n wleidyddol.

"Felly dim ond baneri o wledydd sy'n cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd sy'n cael eu caniatáu, nid baneri all gael eu dehongli i fod yn arwyddion gwleidyddol.

"Fel yn y gorffennol, wrth gwrs fod baneri'r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yn iawn i'w defnyddio, gyn belled fod hynny o fewn cyd-destun chwaraeon."

Dywedodd Tîm Prydain (Team GB) a Chwaraeon Cymru nad oedd unrhyw waharddiad ar y defnydd o faner Cymru.

Rio oedd y Gemau Olympaidd gorau erioed i athletwyr o Gymru, wrth iddyn nhw ennill pedair medal aur a chwe arian.