Rhyddhau pedwar ar fechnïaeth wedi marwolaeth dynes

sophie Image copyright Llun teulu

Mae pedwar person gafodd eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth dynes ifanc yng Nghaerdydd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Bu farw Sophie Taylor, 22 oed o Landaf, mewn gwrthdrawiad yn oriau mân fore Llun yn ardal Adamsdown.

Roedd hi'n gyrru BMW 1 Series du pan wnaeth y car daro yn erbyn bloc o fflatiau yno.

Mae dau ddyn, 22 a 18, a dwy ddynes, 23 a 28, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth, meddai Heddlu De Cymru.

Mae dyn 21 oed, oedd yn teithio yn y BMW, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae swyddogion yn apelio am dystion welodd dri char - y BMW 1 Series du, BMW 1 Series gwyn, a Vauxhall Corsa du - yn teithio gyda'i gilydd yn ystod oriau man fore Llun.