Caerdydd ar fin gwerthu'r golwr David Marshall i Hull

Mae disgwyl i gapten Caerdydd adael y clwb yn fuan ar ôl iddo gytuno ar delerau personol gyda Hull City.
Mae tîm y brifddinas wedi derbyn £5m amdano.
Yn ôl rheolwr Caerdydd Paul Trollope, fydd Marshall ddim yn ymddangos yn y garfan sydd yn wynebu Reading heddiw oherwydd y cytundeb.
Mae Marshall wedi gwneud dros 280 ymddangosiad i Gaerdydd ers iddo ymuno o Norwich yn 2009.
Mae'n cael ei gydnabod gan lawer fel efallai y gôl-geidwad gorau y tu allan i'r Uwch Gynghrair.
Mae Caerdydd wedi arwyddo Ben Amos o Bolton tan ddiwedd y tymor, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y dyfodol heb eu capten.