Adran 2: Hartlepool 2-2 Casnewydd

Parkin Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption John Parkin yn dathlu

Mae Casnewydd wedi sicrhau pwynt yn Hartlepool - ond roedd y tîm cartref yn ffodus i gael y canlyniad ar ôl chwarae'r rhan fwyaf o'r gêm â 10 dyn.

Ar ôl 2 funud sgoriodd Nicky Featherstone i Hartlepool, ac o fewn eiliadau cafodd Aristote Nsiala gerdyn coch am lawio'r bêl yn fwriadol.

Sgoriodd Sean Rigg i Gasnewydd yn syth wedyn o gic cosb.

Fe aeth Casnewydd ar y blaen gyda chymorth ergyd rymus John Parkin.

Daeth ail gol Hartlepool cyn yr egwyl - Padraig Almond yn sgorio.

Ond fe ddaeth y cyffro i ben yn yr ail hanner, wrth i'r dau dim fethu sgorio eto.