Darganfod corff yn y môr ger Aberystwyth

Harbwr Aberystwyth Image copyright Geograph / Robin Drayton

Mae corff wedi cael ei ddarganfod yn y môr rhwng Aberystwyth a Borth.

Toc wedi 07:00 fore ddydd Iau cafodd gwylwyr y glannau wybod bod cwch pysgota wedi gweld y corff yn agos i harbwr Aberystwyth.

Cafodd timau achub eu galw ac mae'r corff bellach wedi cael ei gludo i'r lan.

Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys bod corff dyn wedi cael ei ganfod, a'u bod yn y broses o geisio'i adnabod.

Ychwanegodd yr heddlu nad oedd y corff yn gysylltiedig â'r digwyddiad yn ymwneud â chwch cyflym ddydd Mercher yn harbwr Aberystwyth, pan fu farw un person ac anafwyd un arall.