Adnabod corff pwerdy Didcot

Image copyright AP

Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff dyn o Abertawe yng ngweddillion pwerdy Didcot, Sir Rhydychen.

Bu farw Christopher Huxtable, 34 oed, pan wnaeth rhan sylweddol o'r adeilad ddymchwel ym mis Chwefror.

Mae dau ddyn arall Ken Cresswell, 57, and John Shaw, 61, y ddau o Rotherham, yn parhau i fod ar goll yno.

Cafwyd hyd i gorff Mr Huxtable ddydd Mercher. Mae'r heddlu wedi hysbysu ei deulu.

Bu farw dyn arall, Michael Collings o Teeside, pan ddigwyddodd y ddamwain.

Oherwydd peryglon y safle, bu'n rhaid i dimau achub oedi am gyfnod hir cyn chwilio am gyrff y gweithwyr a fu farw.

Image caption Teyrnged aelodau'r timau achub yn Didcot wrth i gorff Mr Huxtable gael ei hebrwng o'r safle